Telerau a’r Amodau

Darperir gwe-fan Fforum Gelf Ynys Môn ac unrhyw ddefnydd ohoni gan Fforum Gelf Ynys Môn, yn ôl y telerau a’r amodau canlynol:

1. Trwy ddefnyddio gwe-fan Fforum Gelf Ynys Môn rydych yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y telerau a’r amodau, a fydd yn dod i rym wrth i chi ddefnyddio gwe-fan Fforum Gelf Ynys Môn am y tro cyntaf.

2. Gall Fforum Gelf Ynys Môn newid y Telerau a’r Amodau hyn unrhyw bryd trwy bostio newidiadau ar-lein. Dylech daro golwg ar y Telerau a’r Amodau hyn yn rheolaidd. Mae defnydd o we-fan Fforum Gelf Ynys Môn wedi i newidiadau i’r Telerau a’r Amodau gael eu postio yn golygu eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo’n gyfreithiol gan y Telerau a’r Amodau newydd.
Hawlfraint

Cedwir pob hawl. Mae’r hawlfraint ar yr holl ddeunyddiau yn y fan hon yn perthyn i Fforum Gelf Ynys Môn © 2012 Fforum Gelf Ynys Môn.
Gwadiad

Mae Fforum Gelf Ynys Môn yn ymdrechu i sicrhau bod cynnwys y we-fan hon yn gywir a chyfredol ond nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gamgymeriadau neu hepgoriadau.

Nid yw Fforum Gelf Ynys Môn yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw anghyfleustra, golled neu ddifrod yn deillio o ddefnydd neu anallu i ddefnyddio’r wybodaeth ar y we-fan hon.

Nid yw Fforum Gelf Ynys Môn yn derbyn cyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau allanol ac ni ddylid tybio bod gwefannau o’r fath wedi eu cymeradwyo gennym ni.