Preifatrwydd

Data

Bydd Fforum Gelf Ynys Môn yn casglu, yn prosesu ac yn storio gwybodaeth a gasglwyd o ganlyniad i broses agored neu gyda’ch caniatâd penodol chi, yn unol â deddfau diogelu data. Bydd eich manylion yn cael eu cadw gan Fforum Gelf Ynys Môn yn unig ac ni fyddant ar gael i unrhyw drydydd parti, ac eithrio lle nodir yn wahanol.

E-bost

Os byddwch yn anfon gwybodaeth at Fforum Gelf Ynys Môn trwy e-bost, nodwch os gwelwch yn dda na all Fforum Gelf Ynys Môn warantu ei diogelwch wrth i’r wybodaeth honno gael ei chludo. Wedi iddi gael ei derbyn, bydd gwybodaeth e-bost yn cael ei storio yn unol â’r gyfraith ar ddiogelu data.

Cwcis

Defnyddir cwcis mewn rhai mannau ar we-fan Fforum Gelf Ynys Môn er mwyn adnabod eich cyfrifiadur ar ein gweinydd. Mae cwci yn cofnodi’r meysydd yr ymwelodd y cyfrifiadur â nhw a hyd yr ymweliad. Rydym yn defnyddio swm y wybodaeth hon yn hytrach nag enghreifftiau unigol, fel modd o fonitro tueddiadau traffig gwe ac er mwyn datblygu’r we-fan.

Os ydych yn poeni am y defnydd o gwcis, gallwch newid y gosodiadau ar eich cyfrifiadur er mwyn gwrthod y defnydd ohonynt. Fodd bynnag, gall hyn olygu na fydd rhai rhannau o’r safle yn gweithio’n iawn.

I gael gwybodaeth am sut i wrthod cwcis os ydych yn defnyddio fersiwn o Internet Explorer ewch i www.microsoft.com/info/cookies.htm os ydych yn defnyddio fersiwn o Firefox ewch i www.mozilla.org/projects/security/pki/psm/help_21/using_priv_help.html