Wythnosau Celf Ynys Môn: Stiwdios ac Orielau Agored 2020

Croeso i’r unfed ar bymtheg o Wythnosau Celf Ynys Môn, Wythnosau Stiwdios Agored ac Orielau, Dydd Sadwrn 4 Ebrill – Dydd Sul 19 Ebrill 2020, pryd y bydd paentwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, arlunwyr print, artistiaid gosodiadau a gweithwyr crefft yn agor eu stiwdios i ymwelwyr.

The 2020 Anglesey Arts Weeks Open Studios event has been postponed because of the Covid19 coronavirus outbreak.

Mae Wythnosau’r Stiwdios ac Orielau Agored yn denu ymwelwyr o bob rhan o Brydain. Dyma’r digwyddiad celf mwyaf a gynhelir ar yr ynys. Eleni, bydd gwaith dros 200 o artistiaid yn cael ei arddangos mewn 40 o leoliadau, gan gynnwys 7 oriel sy’n cymryd rhan. Bydd pob mathau o bethau ar gael i chi eu prynu, yn gardiau, printiau a gweithiau celf gwreiddiol; a gallwch weld gweithiau sydd wrthi’n cael eu gwneud ac arddangosfeydd o gelfyddyd gyfoes. Mae’r lleoliadau’n cynnwys stiwdios, capeli, ysguboriau, siediau, orielau a chartrefi artistiaid. Byddwch yn cael cyfle i gyfarfod a siarad â’r artist, yn aml dros baned o de, a thrwy hynny gipolwg unigryw o’r broses artistig. Peidiwch â theimlo’n swil ynghylch ymweld; yr unig reswm y mae’r holl artistiaid yn agor eu stiwdios yw eu bod yn awyddus i’ch cyfarfod chi. Fel y crybwyllwyd eisoes, rydym yn cynnig 5 daith gerdded celf a thirlun. Mae gwybodaeth bellach am y rhain yn yr adran Digwyddiadau.
Mae’r digwyddiad yn ymestyn dros ddwy wythnos lawn y Pasg gyda rhai artistiaid yn agored yr holl amser ac eraill am ychydig ddyddiau’n unig. Er mwyn ei gwneud hi’n haws ichi gynllunio, oriau agor y stiwdios bob amser yw 11am-5pm ar y dyddiau y maent yn agored. Hefyd mae clawr y llawlyfr A5 lliw yn cynnwys map sy’n eich helpu i gynllunio’ch ymweliadau a dangos y ffordd o amgylch yr ynys. Mae hefyd yn cynnwys manylion am ein teithiau cerdded, y gallwch eu gweld hefyd yn yr adran Digwyddiadau.
Bydd y Llawlyfr yn cael ei ddosbarthu’n helaeth, a gellir lawrlwytho copi PDF, ynghyd ag ychwanegiadau a chywiriadau. Yn y llawlyfr, ochr yn ochr â manylion pob artist, mae calendr sy’n nodi eu dyddiau agor, ac yn adran gefn y llawlyfr, mae amserlen ddyddiol o’r holl stiwdios sy’n agored ar bob diwrnod sy’n eich galluogi chi i gynllunio taith i ymweld â’r rhai sy’n agored.

Gyda help Menai Holiday Cottages rydym yn gweithio i hyrwyddo gwaith artistiaid ac orielau drwy gydol y flwyddyn. Felly, yn ogystal â’r oriau agor a ddangosir ar gyfer y Stiwdios Agored, mae rhai ar agor drwy’r flwyddyn (gweler eu gwefan neu cysylltwch am eu horiau agor rheolaidd), ac eraill drwy gydol y wyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Os byddwch yn mwynhau eich ymweliad, dewch yn ôl yn yr hydref i ddarganfod y doniau celfyddydau perfformio ar yr ynys neu ymunwch fel unigolyn neu grŵp ag Wythnosau Celfyddydau Perfformio Môn (17 Hydref – 1 Tachwedd 2019). Dangosir rhagflas o’r hyn sydd i ddod o dan yr adran Wythnosau Celfyddydau Perfformio, ac mae’n cynnwys y 6ed gŵyl ffilmiau SeeMôr. I gael copi o’r llawlyfr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Chanolfan Ucheldre ar 01407 763361, neu box-office@ucheldre.org

Cyfranogwyr 2019:

Canlyniadau: linda

Trefnu yn ôl Enw | Tref | Y Map

No results found for linda, sorry. Try using different search keywords, such as a single surname rather than full name