Arddangosfa o Ddarluniau Gwreiddiol gan Harriet Challis-Jones

Submitted by Glyn Davies on 23 January, 2007 - 12:49pm.
Arddangosfa yn Oriel Ynys Môn, Llangefni o 22 Ionawr i 18 Mawrth (Yng Nghoridor II, sy’n arwain at yr arddangosfa barhaol) “Mae’r rhan fwyaf o’r darluniau sydd yma yn ymwneud â heddwch a thawelwch arfordir hyfryd Ynys Môn a’r golygfeydd oddi yno i Eryri. Rwyf wedi ceisio cyfleu awyrgylch y tirweddau hyn yn union fel y gwelais i nhw, heb ychwanegu teimladau personol, gan nad ydw i’n teimlo fod angen ychwanegu dim at y fath harddwch naturiol.�? Mae Harriet Challis-Jones yn byw ac yn gweithio mewn ty wedi ei amgylchynu gan gaeau, sy’n edrych dros Goedwig Niwbwrch, gyda’i gwr a’i merch ifanc. Astudiodd yng Ngholeg Celf a Dylunio Wrecsam, lle arbenigodd mewn gemwaith. Mae hi wedi mwynhau paentio a thynnu lluniau erioed, ac mae hi wedi datblygu techneg sy’n cyfuno defnyddio pastelau a dyfrlliwiau. Arddangosodd ei gwaith am y tro cyntaf yn 1989, pan dderbyniwyd ei darn Lefel A i’r Arddangosfa Haf Flynyddol ym Mhlas Mawr. Ers hynny, mae hi wedi arddangos a gwerthu ei gwaith yn rheolaidd yn yr Academi Frenhinol Gymreig, Arddangosfeydd Agored eraill, ac arddangoswyd ei gwaith droeon yn Nhy Celf Môn. Yn ddiweddar, mae hi wedi dychwelyd i’r coleg yn rhan amser i astudio am Radd Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru Bangor.