Arddangosfa Newydd gan Gareth Davies
 Wreck Arddangosfa Newydd gan Gareth Davies ar gyfer Wythnosau Celf Ynys Môn Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y cyn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gelf Falmouth, Gareth Davies, yn arddangos cyfres o'i luniau morwrol diweddaraf yn Oriel Glyn Davies ym Mhorthaethwy fel rhan o Wythnosau Celf Ynys Môn. Mae'r delweddau hyn newydd gyrraedd o'r arddangosfa gyfun lwyddiannus iawn dan y teitl "Salt n Ships" gyda'i fab Glyn yn Oriel Gelf Williamson yng Nghilgwri, lle gwerthodd chwe llun gwreiddiol o'r ugain a oedd yn cael eu harddangos. Fe fydd Gareth wrth law i drafod ei waith ar amseroedd penodol yn ystod yr wythnosau. Ffoniwch 01248 715511 am fanylion. |
|