Mike Gould
Cadeirydd
Mae Mike Gould wedi bod yn Rheolwr Cyffredinol Canolfan Ucheldre ers iddi agor yn 1991. Mae’r ganolfan gelfyddydau yng Nghaergybi’n rhoi lle i’r holl gelfyddydau perfformio a gweledol, ac mae ganddi raglen gynhwysfawr drwy’r flwyddyn sy’n cynnwys arddangosfeydd, gweithdai, clybiau, cymdeithasau, drama, cyngherddau, ffilmiau, dawns a llenyddiaeth.
|
Helen Grove-White
Is-gadeirydd
Symudodd Helen Grove-White i Fôn yn 2005 ac mae wedi bod ar bwyllgor y Fforwm Gelf am y rhan fwyaf o’r amser ers hynny. Ei diddordeb penodol yw celf gyfoes ac yn ogystal â’i gwaith ei hun mewn fideo ac amryw o gelfyddydau ffotograffig mae hi hefyd yn dysgu cyrsiau Arlunio Tir o’i chartref yng ngogledd Môn. Mae hi wedi arddangos yn rhyngwladol, yn yr Alban, Iwerddon a Lloegr yn ogystal ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol a lleoedd eraill yng Nghymru.
|
Wil Owen
Aelod o’r Pwyllgor
Syrfewr peirianegol gyda diddordeb byw mewn cerddoriaeth a ieithoedd tramor. Cynrychiolydd grŵp Cymdeithas Genedlaethol Corau Prydain a Ffederasiwn Corau Meibion Gogledd Cymru. Cyn-gadeirydd Côr Meibion y Traeth ym Môn (1993-95), ac ar hyn o bryd ein swyddog nawdd, ffôn: 01407 741641
|
Eirian Llwyd
Aelod o’r Pwyllgor
|