Featured artist
Alison Englefield
Ers nifer a flynyddoedd, dw i wedi bod yn archwilio wynebau a gerfiwyd ar lechi a cherrig beddau’r 18fed ganrif – mae gen i gasgliad o dros 100 o luniau. Mae’r blynyddoedd yn cuddio’r beddau â chen a phridd, maent yn hollti ac yn erydu ond yn parhau i gynnig golwg ôl drwy’r canrifoedd – ac i fy hudo. Mae fy ngwaith yh gwneud defnydd o haenau; mae fy nghynfosau yn cofnodi hanes sydd wedi’i wreiddio yn y ddaeor ac maent fel pe baent yn gorchuddio neu’n dadorchuddio’r gorffenol.
Next event
Teithiau cerdded celf a thirlun 2
Sat, 30 Mar, 2024
Taith gerdded trwy stiwdio a thirwedd gyda’r tywysydd taith Kath Thomas yn cychwyn o faes parcio Priordy Penmon ac yn ymweld a stiwdios artistiaid cyfagos.