Teithiau Bws Tywysedig

Am yr ail dro rydym yn cynnig teithiau tywysedig am
ddim o gwmpoas y stiwdios. Felly os nad oes gennych eich trafnidiaeth eich hun, neu nad oes arnoch chi eisiau gyrru o gwmpas yn chwilio am stiwdios, neu y byddai’n well gennych ymweld gydag eraill, yna archebwch un o’r teithiau hyn. Bydd pob taith yn cael ei harwain gan David Wagstaff, tywysydd cymwysedig rhagorol a fydd yn gallu rhoi darlun dadlennol o hanes a thirwedd ynys hardd a hynafol Môn. Bydd hyn yn helpu rhoi teimlad o’r amgylchedd y mae’n hartistiaid ni’n gweithio ynddo ac yn cael eu hysbrydoli gandddo.

Rydym wedi rhannu’n stiwdios yn glystyrau er mwyn helpu artistiaid i weithio gyda’i gilydd yn eu hardal, a hefyd er mwyn ei gwneud hi’n bosibl ymweld â nifer o stiwdios mewn diwrnod. Byddwn yn rhoi manylion pellach o’r stiwdios yr ymwelir â nhw’n nes at yr amser, ond ar hyn o bryd, dyma fanylion sylfaenol y teithiau. Gobeithiwn y bydd hyn yn ddiwrnod gwych a di-dâl, ond gan fod y lleoedd wedi’u cyfyngu, byddwch cystal ag archebu eich lle neu adael inni wybod os na allwch chi ddod. Bydd bwsiau yn dychwelyd yn ôl i’w lleoliadau cychwynnol ar ddiwedd y daith. Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda.

Clwstwr Gogleddol
27 / 3 / 13 (10am – 4pm)
10am – Canolfan Ucheldre Centre

Clwstwr Rhosneigr
28 / 3 / 13 (10am – 4pm)
10am – Oriel Ynys Môn.

Clwstwr Biwmaris
3 / 4 / 13 (10am – 4pm)
10am – David Hughes Centre

Clwstwr Deuheuol
4/ 4 / 13 (10am – 4pm)
10am – Oriel Ynys Môn.

I archebu:
Canolfan Ucheldre Centre
01407 763361
E: he@ucheldre.org

Wythnosau Celfyddyddau Perfformio Ynys Môn

Mae Fforwm Gelf Ynys Môn yn lansio’i bumed Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn, gan ddathlu a hyrwyddo’r doniau amrywiol ym Môn, gan gynnwys Gŵyl Gelfyddydau Caergybi. Eleni bydd Gŵyl Gelfyddydau Caergybi’n cynnwys dewis helaeth o ddrama i oedolion ac i deuluoedd, ynghyd ag amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol. Mae gormod o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill i gael eu rhestru yn y daflen hon; mae taflen ar wahân yn hyrwyddo’r Wythnosau Celfyddydau Perfformio ar gael o’r Ganolfan Ucheldre neu ar y wefan: www.fforwmgelfynysmon.org neu Canolfan Ucheldre 01407 763361.

Dogfennau:
Taflen WCPYM [PDF, 540kb]
Digwyddiadau Ucheldre, Hydref – Rhagfyr 2012 [PDF, 1.9Mb]