Mae Oriel Tŷ Celf yn arddangos gwaith Roger Richards, ffotograffydd sy’n byw ym Môn, a ffotograffwyr gwadd lleol. Mae Roger wedi bod yn ymwneud yn broffesiynol yn y celfyddydau gweledol ers dros 40 mlynedd, gan ennill llawer o wobrau rhyngwladol fel ffotograffydd ffilmiau sgrin fawr yn ogystal ag ennill enw fel ffotograffydd dawnus o dirluniau a lluniau llonydd cyfoes.