Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn 2019

Bydd Fforwm Celfyddydau Ynys Môn yn lansio unfed ar ddeg wythnos Wythnos Celfyddydau Perfformio Ynys Môn (APAW) yn dathlu a hyrwyddo’r talent amrywiol ar Ynys Môn, a fydd yn cynnwys detholiad eang o ddrama ar gyfer oedolion a chynulleidfa’r teulu ynghyd ag amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol. Mae hefyd yn cynnwys trydedd Gŵyl Ffilm Ynys Môn, SeeMôrV. Bydd taflen ar wahân sy’n hyrwyddo APAW ar gael yn fuan.

Mae croeso i grwpiau, cymdeithasau a pherfformwyr Ynys Môn gysylltu â ni os ydych chi am ymuno yn y Wythnosau.

Isod mae sampl o gyfranogwyr blaenorol.

« First ‹ Previous 1 2 | Trefnu yn ôl Enw | Tref
ORIEL MÔN
Llangefni
LL77 7TQ

01248 724444
Oriel Môn yw prif amgueddfa ac Oriel arddangos Ynys Môn. I’w chynulleidfa artistig, mae’r Oriel yn cynnig rhaglen ddeinamig o arddangosfeydd creadigol o bob math o ffurfiau celf, gan arddangos gwaith arlunwyr profiadol a thalentau ifanc fel ei gilydd. Ar agor trwy gydol y flwyddyn.

oriel@ynysmon.gov.uk
www.orielynysmon.info

Darllen mwy...
Bonc Newydd
LL76 8SQ

01248 450438
07788 664001
Dw i’n creu ffigurau mewn clai ac mewn papier mâché a chymysgedd o’r ddau. Caiff y ffigurau clai eu tanio gyda gwydreddau heb fod yn realistig, weithiau mewn odyn raku. Dw i hefyd yn cloddio clai yn lleol ac yn cynhyrchu gwaith mwy arbrofol. Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

Jenet@jenetpeers.co.uk

Darllen mwy...
Plas Bodfa
Llangoed
LL58 8ND

07480811535
Arddangosfa gelf amlddisgybliaeth sy’n archwilio posibiliadau tŷ gwag. Mae 61 o bobl greadigol yn archwilio “sui generis”: gwrthrychau a gweithiau unigryw sy’n mynd y tu hwnt i fathau confensiynol, dosbarthiad cyfreithiol ar gyfer adeiladau sydd i tu hwnt i ddynodiad arferol. Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

julie@plasbodfa.com
www.plasbodfa.com

Darllen mwy...
Bumwerth
Bae Trearddur
LL65 2LZ

01407 860117
Mae Anwen wedi arddangos yn helaeth ar hyd a lled gogledd Cymru. Mae hi'n paentio mewn olewau yn bennaf, gan ddal gwaith, bywyd, anifeiliaid a'r bobl sy'n ymwneud â'r ffordd amaethyddol a gwledig o fyw. Gellir gweld lluniau gwreiddiol a phrintiau yn ei stiwdio ar ei fferm. Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

anwenrobertsart@gmail.com
www.anwenrobertsart.co.uk

Darllen mwy...
Stiwdio Refail
LL65 3SU

01407 740485
Rydan ni, Brenda Jones a Tegwyn Francis Jones, yn cynhyrchu gwaith celf o ddiddordeb lleol. Mae gynnon ni ddiddordeb yn hen hanes Ynys Môn ac mae rhai darnau o waith yn ymwneud â'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae darnau eraill yn hollol fympwyol. Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

brenrefail@yahoo.co.uk

Darllen mwy...
Garnedd Wen
LL75 8YP

07816372801
Dw i’n grochenydd sy’n gwneud potiau a phlatiau lliwgar i’w defnyddio ar bwrdd cinio. Dw i’n mwynhau anwadalwch y broses danio, lle mae diffyg rheolaeth lawn o drawsnewidiad y clai a’r gwydreddau yn dod â bywiogrwydd i’r darn. Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.

siwthomas@hotmail.com

Darllen mwy...

Cwmni theatre ensemble bychan sy’n sownd i Ganolfan Ucheldre. Wedi’i sefydlu dros ddeg mlynedd yn ôl mae’n cynhyrchu 2-3 cynhyrchiad Saesneg y flwyddyn. Croesawir talentau newydd bob amser, does dim angen profiad blaenorol arnoch.

Darllen mwy...

07951 690872
Mae Emily Bratherton yn hyfforddwraig Zumba gymwysedig sy’n cynnal dosbarthiadau yng Nghaergybi a Bodedern yn ogystal â’i ddysgu o fewn ysgolion.

ebratherton@googlemail.com

Darllen mwy...
« First ‹ Previous 1 2