Wythnosau Celfyddydau Perfformio
Fforwm Celfyddydau Ynys Môn yn lansio Wythnos Celfyddydau Perfformio Ynys Môn (APAW) i ddathlu a hyrwyddo talent amrywiol Ynys Môn, a fydd yn cynnwys detholiad eang o ddrama i oedolion a chynulleidfaoedd teuluol ynghyd ag ystod eang o arddulliau cerddorol. Mae hefyd yn cynnwys wythfed Gŵyl Ffilm Ynys Môn, SeeMôr X.
Mae croeso i grwpiau, cymdeithasau a pherfformwyr Ynys Môn gysylltu â ni i ymuno yn yr Wythnosau.
Yn rhedeg o Hydref – Tachwedd 2024
20 Castle Street
Dw i’n cynhyrchu amrywiaeth o emwaith aur ac arian yn fy stiwdio a galeri. Byddaf hefyd yn gwerthu gwaith dros 30 o gynllunwyr gemwaith annibynnol.
Penmon
Mae Susanna a Phil Callaghan yn artistiaid mewn pren: yn troi a cherflunio pren caled o ffynonellau lleol yn siapiau organig wedi’u hysbrydoli gan fywyd gwyllt, cefn gwlad a’r môr.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Yn ystod yr Wythnosau Stiwdios Agored mae’r Fforwm Gelf yn arddangos o leiaf un darn o waith gan bob un o’r artistiaid sy’n cymryd rhan. Cyfle i weld pa stiwdios yr hoffech ymweld â nhw ac i gael gwybodaeth a chyngor pellach.
Millbank
Mae Ucheldre yn rhaglennu digwyddiadau, cyngherddau, ffilmiau, darllediadau lloeren, arddangosfeydd, cymdeithasau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn mae’n arddangos gwaith gan artistiaid sy’n cymryd rhan, ynghyd â gweithdai.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.
6 Church Street
Dw i wedi bod yn gwneud potiau, yn arddangos ac yn gwerthu ledled y wlad ers rhai blynyddoedd. Byddaf yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i wneud darnau domestig, addurniadol a cherfluniol. Byddaf yn peintio gydag olew ac acrylig yn ogystal.
Ar agor trwy’r flwyddyn
Llanddona
Mae’r stiwdio hon yn un haptig a chyffyrddol. Mae Rhiannon yn llunio potiau pridd, wedi eu gwydreddu gyda gwydredd ocsi y mae Paul a Rhiannon yn ei wneud gyda’i gilydd. Mae y ci tywys Bailey yn helpu allan o gwmpas y stiwdio.
Sylw arno The Potters Cast podcast #904, clai pridd,
gwydredd cartref, amatur a dal i ddysgu. Dewch o
hyd i ni ar Instagram @llanddona_beach_pottery.
Crochenydd â nam ar ei olwg.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw
Llangoed
Dw i’n gweithio mewn arddull graffeg gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau.
Ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Penmon
Mae fy ngwaith yn cynnwys morluniau a thirluniau sy’n lleol i Fôn a gogledd Cymru. Dw i’n gweithio mewn dyfrlliwiau ac olewau.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
28A Steeple Lane
Mae Georgina Rambton yn paentio portreadau cyfoes ar raddfa fawr mewn dyfrliw/gouache ac acrylig. Mae ei gyrfa’n rhychwantu 40 mlynedd, fel darlithydd a dylunydd. Arddangosir ei gwaith yn rhyngwladol yn ogystal ag yn lleol.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Mae gwaith Anne wedi ei ysbrydoli gan ei ffydd a gwead a lliw yn y tirwedd, coed a’r môr o gwmpas Ynys Môn. Mae hi’n defnyddio ystod o gyfryngau gan gynnwys sidan, dyfrlliw, pastel a batic ac yn cynnal gwersi a chlybiau yn wythnosol. Mae hi hefyd yn arddangos yn Oriel Môn.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Bae Trearddur
Ar agor ac arddangos yn neuadd bentref Bae Trearddur Dydd Sadwrn 30ain, dydd Sul 31 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill.
Ar agor trwy gydol y flwyddyn trwy drefnu ymlaen llaw.
Dw i wedi cael fy ysbrydoli gandirwedd byd natura a
phobi Ynys Mon. Dw i’n mwynhau gweithio a phob mathau o gyfryngau. Ar hyn o bryd, mae i’n well gen i weithio â dyfrilliw, pastel ac inc