Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn

Mae Fforwm Gelf Ynys Môn yn lansio’i bumed Wythnosau Celfyddydau Perfformio Ynys Môn, gan ddathlu a hyrwyddo’r doniau amrywiol ym Môn, gan gynnwys Gŵyl Gelfyddydau Caergybi. Eleni bydd Gŵyl Gelfyddydau Caergybi’n cynnwys dewis helaeth o ddrama i oedolion ac i deuluoedd, ynghyd ag amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol. Mae gormod o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill i gael eu rhestru yn y daflen hon; mae taflen ar wahân yn hyrwyddo’r Wythnosau Celfyddydau Perfformio ar gael o’r Ganolfan Ucheldre neu yma: APAW-leaflet-A3small.pdf [PDF, 540kb] neu Canolfan Ucheldre 01407 763361.

| Trefnu yn ôl Enw | Tref

01407 769818
07742682450
Cafodd Academi Ddawns a Drama Barton ei ffurfio yn 1990 gan Helen Barton, Pennaeth yr Academi. Ers hynny, mae’r Academi wedi tyfu’n ysgol hynod lwyddiannus ac wedi ennill llawer o glodydd. Mae’r myfyrwyr wedi perfformio yn Theatr Ei Mawrhydi, Sadlers Wells, y London Palladium, Tŷ Opera Manceinion, Neuadd Albert, Disneyland Paris a Walt Disney World, Florida.

www.bartondanceanddramaacademy.co.uk

Darllen mwy...
Canolfan Ucheldre Centre
Caergybi
LL65 1TE

01407 763361
Canolfan gelfyddydau a wobrwywyd sydd wedi ei lleoli mewn cyn-gapel cwfaint hyfryd ac wedi’i amgylchynu gan erddi prydferth. Mae Canolfan Ucheldre’n rhaglennu digwyddiadau, cyngherddau, ffilmiau, arddangosfeydd, clybiau, cymdeithasau a gweithdai trwy gydol y flwyddyn. Yn ystod Wythnosau Celf Ynys Môn, mae’n arddangos gwaith gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan, ynghyd â gweithdai a chyfle…

box-office@ucheldre.org
www.ucheldre.org

Darllen mwy...

Ffurfiwyd Gŵyl Gelfyddydau Caergybi dros 30 mlynedd yn ôl ac mae’n trefnu wythnos bob blwyddyn o ddigwyddiadau’n cynnwys drama, cerddoriaeth a sgyrsiau. Mae angen brys am aelodau newydd i’r pwyllgor. Mae rhaglen eleni mewn cysylltiad â Chanolfan Ucheldre a Fforwm Gelf Ynys Môn.

Darllen mwy...
Caergybi

01407 762219
Bob blwyddyn mae Ysgol Uwchradd Caergybi’n perfformio sioe gerdd. Mae disgyblion trwy’r holl ysgol yn cymryd rhan a hefyd yn helpu gyda’r band, y tu ôl i’r llwyfan, gwisgoedd a cholur, golau a sain. Eleni, y cynhyrchiad yw’r sioe hynod boblogaidd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat.

Darllen mwy...

07751 017157
Tiwtor dawns hunangyflogedig sy’n byw ym Mhorthaethwy yw Helen, a gafodd ei hyfforddi mewn Addysg Dawns yn California yn 2001. Mae hi wedi bod yn rhoi gwersi ers 2002, ac mae’n cynnal dosbarthiadau a chyrsiau lleol wythnosol mewn Salsa, Burlesque, Hip Hop/Dawns Stryd a dawnsio Affricanaidd.

helenmcgreary7@hotmail.com

Darllen mwy...

Cyfarwyddir Clwb Cerddoriaeth Ucheldre gan Marian Leeming. Y,cyfarfod ar nosweithiau Llun dwywaith y mis. Croesewir y rhai hynny nad ydynt yn aelodau.

Darllen mwy...

Cwmni theatre ensemble bychan sy’n sownd i Ganolfan Ucheldre. Wedi’i sefydlu dros ddeg mlynedd yn ôl mae’n cynhyrchu 2-3 cynhyrchiad Saesneg y flwyddyn. Croesawir talentau newydd bob amser, does dim angen profiad blaenorol arnoch.

Darllen mwy...

07951 690872
Mae Emily Bratherton yn hyfforddwraig Zumba gymwysedig sy’n cynnal dosbarthiadau yng Nghaergybi a Bodedern yn ogystal â’i ddysgu o fewn ysgolion.

ebratherton@googlemail.com

Darllen mwy...