Dilynwch yr A55 i Gaergybi, yna arwyddion i Ganol y Dref hyd nes y gwelwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer ymwelwyr.
Artist sy’n byw a gweithio ym Môn yw Tim Dickinson sy’n cynhyrchu gweithiau emosiynol iawn a minimal sy’n archwilio’r cyflwr dynol a byd emosiynol. Mae ei arddull finimol simplistig yn ychwanegu mwy fyth at yr effaith a gaiff ei ddelweddau, gan dorri ymaith y cyfan nad oes ei angen a gadael y cyflwr amrwd ar ôl.