Amcan Fforwm Celf Ynys Môn yw hyrwyddo’r celfyddydau ym Môn. Mae aelodaeth o’r Fforwm am ddim ac mae croeso i unrhyw un â diddordeb neu’n ymwneud â’r celfyddydau mewn unrhyw ffordd i ymuno.
Mae’r tab Proffiliau Aelodau uchod yn rhestru’r holl aelodau cyfredol ynghyd â manylion o’u gwaith. Mae’r tab Wythnosau Celf yn rhoi manylion o’r Wythnosau Stiwdios ac Orielau Agored cyfredol (23 Mawrth – 7 Ebrill 2013) gyda manylion o bawb sy’n cymryd rhan. Mae’r Wythnosau Celfyddydau Perfformio’n rhoi sylw i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y rhai nesaf a gynhelir 19 Hydref – 3 Tachwedd 2013. Gobeithiwn y byddwch yr wybodaeth ar y wefan hon yn ddefnyddiol ichi ac, os nad ydych chi o Fôn, y bydd yn eich annog chi i ddod draw ac ymweld â’n hynys hardd sydd mor llawn o bobl greadigol!
Ar Frys:
Gwyliwch Heno ar S4C.
Lawrlwythwch y canllaw Wythnosau Celfyddydau Ynys Môn 2013 [PDF, 5.5MB]




