Croeso!

Amcan Fforwm Celf Ynys Môn yw hyrwyddo’r celfyddydau ym Môn. Mae aelodaeth o’r Fforwm am ddim ac mae croeso i unrhyw un â diddordeb neu’n ymwneud â’r celfyddydau mewn unrhyw ffordd i ymuno.

Mae’r tab Proffiliau Aelodau uchod yn rhestru’r holl aelodau cyfredol ynghyd â manylion o’u gwaith. Mae’r tab Wythnosau Celf yn rhoi manylion o’r Wythnosau Stiwdios ac Orielau Agored cyfredol (23 Mawrth – 7 Ebrill 2013) gyda manylion o bawb sy’n cymryd rhan. Mae’r Wythnosau Celfyddydau Perfformio’n rhoi sylw i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y rhai nesaf a gynhelir 19 Hydref – 3 Tachwedd 2013. Gobeithiwn y byddwch yr wybodaeth ar y wefan hon yn ddefnyddiol ichi ac, os nad ydych chi o Fôn, y bydd yn eich annog chi i ddod draw ac ymweld â’n hynys hardd sydd mor llawn o bobl greadigol!

Ar Frys:

Gwyliwch Heno ar S4C.

Lawrlwythwch y canllaw Wythnosau Celfyddydau Ynys Môn 2013 [PDF, 5.5MB]

Newyddion diweddaraf:

Teithiau Bws Tywysedig
20 Mawrth 2013
bustours

Am yr ail dro rydym yn cynnig teithiau tywysedig am ddim o gwmpoas y stiwdios. Felly os nad oes gennych eich trafnidiaeth eich hun, neu nad oes arnoch chi eisiau gyrru o gwmpas yn chwilio am stiwdios, neu y byddai’n … [Darllen mwy...]

Arddangosfa Oriel Ynys Môn: 2 Mawrth – 14 Ebrill
4 Mawrth 2013
Oriel_Ynys_M_n_-_Outside_image_2011__Small_

Rhwydwaith Stiwdios Agored Gogledd Cymru, partneriaeth rhwng Fforwm Gelf Ynys Môn a Helfa Gelf yn cyflwyno arddangosfa o artistiaid dethol wedi’i churadu gan Jonathan Le Vay.

Jo Alexander Jaci Atkinson Lisa Carter Dominic Clare Mandy Coates Wendy Couling Richard Daniels … [Darllen mwy...]