STIWDIOS AGORED MÔN 2018

24 MAWRTH – 8 EBRILL

Mae Wythnosau Celf Ynys Môn: Stiwdios Agored ac Orielau yn hyrwyddo celf ar Fôn drwy wahodd paentwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, arlunwyr print, artistiaid gosodiadau a gweithwyr crefft i agor eu stiwdios i ymwelwyr am bethefnos. Mae ein llawlyfr poblogaidd yn rhestru pawb sy’n cymryd rhan ac yn cynnwys map i gynllunio’ch ymweliadau ac i’ch arwain o gwmpas yr ynys, gyda manylion o’r teithiau cerdded a braslunio rhad ac am ddim. Gellir lawrlwytho llawlyfr 2018 o www.fforwmgelfynysmon.org a bydd copïau caled yn cael eu dosbarthu mewn lleoedd allweddol ledled yr ynys. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Ucheldre (01407 763361).

Rho Ymateb

E-bost ni fydd yn cael ei gyhoeddi. * (gofynnol)