Ychydig o eiriau gan y Cadeirydd

Cyflwynwyd gan Mike Gould ar 8 Mehefin, 2006 - 12:08yh.

Beth Nesaf?

Adroddwyd gan y rhan fwyaf o gyfrannwyr flwyddyn yma fod yr Wythnosau Celf  wedi bod yn rhai llwyddianus iawn. Diolch i bawb a gymerodd rhan ac i phawb a ddaeth i ymweld. Bydd yr Wythnosau Celf flwyddyn neasaf, unwaith eto, drost cyfnod y pasg sef o Ddydd Sadwrn Mawrth 31 hyd at Ddydd Sul Ebrill 15, 2007. Rwyn gobeithio y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ymgofrestru eto ac yn annog eich ffrindiau a chydweithwyr i wneud hefyd.
Mae’r pwyllgor wedi bod yn trafod datblygiadau i’r wefan ac hefyd dosbarthiadau a chriterion proffiliau aelodau. Byddem yn cylchredeg y rhain yn fuan. Rydym hefyd yn ei gwneud yn haws i ymgofrestru yn aelod.
Yn ôl i’r Wythnosau Celf, rydym fyth heb dderbyn y ffurfleni adlifoedd yn ôl i gyd. Felly, os nad ydych wedi ei dychwelyd yn ôl a fyddech yn gwneud yn fuan os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu mynegi cynnydd i’r buddsoddwyr. Fe fydd cyfle yn y digwyddiad cymdeithasol ar Fehefin 18, 2006 i roi adlif anffurfiol.

Digwyddiad Cymdeithasol – Dydd Sul, Mehefin 18, 2006, 12-3yh


Yn dilyn awgrymiad y dylsem geisio a chael digwyddiadau cymdeithasol yn fwy rheolaidd rydym am ddechrau gyda ymgasgliad annfurfiol yn fy nhy ar ddydd Sul, Mehefin 18, 2006 o 12.00yh hyd at 3.00y.h.  Mae’r digwyddiad yma yn agored i holl aelodau y fforwm yn ogystal a’i teuluoedd. Rydym yn ymwybodol fod y diwrnod yma hefyd yn Sul y Tadau, ond yn lle mynd a’r tadau allan am bryd o fwyd, dewch a phlât a diod a gyda’r tywydd yn caniatau byddem yn hamddena o amgylch yr ardd.Dyma gyfle, yn enwedig i’r rhain a gymerodd rhan yn yr Wythnosau Celf eleni i gwrdd ag eraill ac i roi adlif anffurfiol yn ôl. Mae’r gwahoddiad yn agored i holl aelodau’r fforwm yn ogystal a’i teuluoedd- felly dewch i gael sgwrs ag i gymdeithasu.
Ar ôl hyn byddem yn gobeithio y caiff trefniadau eu trefnu gyda fwy o rhwysg gan fod Georgina Rambton wedi gwirfoddoli i drefnu y cymdeithasu. Fe fydd hi o gwmpas i ddarganfod beth mae pobl eisiau ei wneud.  Yn gryno felly mae croeso i holl aelodau y fforwm, eu partneriaid a theuluoedd i ddod: dewch a phlât a diod; 12.00 y.h – 3.00y.h Dydd Sul, Mehefin 18, 2006 yn Cil Ynys, Ffordd Langford, Caergybi, LL65 1TR – Drws nesaf i ‘Abbeyfield House’ a Ysgol St Mary’s. Bydd parcio ar gael ar y lôn neu yn faes parcio y capel.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cadwch nodyn yn eich dyddiadur am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhalir ar Ddydd Iau, Medi 21, 2006. Bydd mwy o fanylion a fformat y cyfarfod yn cael ei gylchredeg hwyrach ymlaen ond mi rydym yn ei wneud yn “Ddangosai i fy un i os wnei di ddangos dy un di…”
Bydd cyfle i bawb arddangos ei gwaith o’r flwyddyn cynt, gyda tua 10 o artistiaid yn siarad am 5 munud yr un am ei gwaith diweddar, dau perfformaid a chôr efallai i agor y cyfarfod.

Cynnig Arbennig – Gwefan

Fel gwobr am ddarllen mor bell, os ydych yn hoffi’r ffordd mae ‘Aura Concepts’ wedi dylunio ein gwefan newydd pham na newch chi hefyd ofyn iddynt ddylunio a adeiladu gwefan i chi. Byddech wedyn yn gallu cysylltu o’ch mynediad fforwm.  Bydd y busnes, a’i lleoliad yn Biwmares, yn fodlon iawn i osod pris, yn ogystal a thrafodaeth am ddim mae aelodau y fforwm yn cael gostyngiad cyflwynedig o 10%!! Am fwy o fanylion cysylltwch a Laura Turner drwy unai ffonio (01248) 810911 neu e-bostio info@auraconcepts.eu. Ei gwefan yw www.aura-concepts.co.uk
Tra ar y pwnc o wefannau, peidiwch ag anghofio i gadw eich mynediad ar y gwefan yn ddiweddar ac i gadw o leiaf y dudalen agoriadol yn ddwy ieithog. Os byddech yn e-bostio geiriau i unai helen@mentermon.com neu non@mentermon.com byddent yn gallu cyfieithu hyd at 50 o eiriau pa byddech yn sôn mai ar gyfer gwefan Wythnosau Celf Ynys Môn y mae.  Mae Menter Môn hefyd yn cynnig gwasanaethau cyfieithu eraill yn cynnwys hyd at 300 o eiriau yn ogystal a chymorth a gwybodaeth am grantiau posib sydd ar gael. Unwaith eto cysylltwch gyda unai Helen neu Non.

Yn ôlaf, os oes gennych ynrhyw newyddion neu wybodaeth yr ydych eisiau ei rannu (comisiynau newydd, arddangosfeydd ac yn y blaen) cyflwynwch nhw drwy’r wefan neu ysgrifennwch i ni.