Y Pwyllgor

Cyflwynwyd gan admin ar 19 Chwefror, 2006 - 4:10yh.
Mike Gould
Mike Gould

Mike Gould
Cadeirydd

Mae Mike Gould yn Reolwr Cyffredinol ar Ganolfan Ucheldre ers 1991 pryd agorwyd y ganolfan.  Mae’r ganolfan gelfyddydol wedi’i leoli yng Nghaergybi yn cynnig amrediad eang o gelfyddydau perfformio a gweledol a chyda rhaglen gynhwysfawr drwy’r flwyddyn sy’n cynnwys arddangosfeydd, gweithdai, clybiau, cymdeithasau, drama, cyngherddau, ffilmiau, dawns a llenyddiaeth.

Glyn Davies
Glyn Davies

Glyn Davies
Is-gadeirydd ers 2005 Aelod o’r Pwyllgor ers 2004 

Mae Glyn yn artist ffotograffiaeth llawn amser arobryn â chymwysterau proffesiynol, sy’n rhedeg ei oriel ei hun ym Mhorthaethwy.  Mae wedi bod yn aelod o’r pwyllgor am y ddwy flynedd ddiwethaf, ac y mae wedi cymryd cyfrifoldeb arbennig am y ffotograffiaeth a pharatoi ffeiliau delwedd ar gyfer Llyfrynnau Wythnosau Celf Ynys Môn 2005 a 2006, gan gynnwys darparu gwasanaethau am ddim yn 2005 er mwyn hwyluso cynnydd yn ansawdd cynnwys y llyfryn.  Eleni, ei brif swyddogaeth fu cysylltu â dylunwyr y wefan, Aura Concepts, a chynghori’r pwyllgor fel bo’r angen ar faterion a gofynion cynhyrchu.  Glyn sydd hefyd wedi darparu portreadau’r pwyllgor.  Ei brif resymeg dros fod yn rhan o’r AAF yw defnyddio ei sgiliau hyrwyddo a chysylltiadau â’r cyfryngau i helpu â hyrwyddo gwaith pob ymarferwr celf ym Môn i gwsmeriaid a marchnadoedd newydd yn y Gogledd Orllewin.

 

  
 

 


  
 
Trevor Stockwell Portrait
Trevor Stockwell Portrait

Trevor Stockwell
Aelod o'r Pwyllgor

 
Eirian Llwyd Portrait
Eirian Llwyd Portrait

 

Eirian Llwyd
Aelod o'r Pwyllgor

Will portrait
Will portrait

Will Owen
Aelod o'r Pwyllgor

 

Arolygydd peirianneg â diddordeb mewn cerddoriaeth a ieithoedd estron. Cynrychilydd Côr y Traeth nghymdeithas Cenedlaethol corau prydain fawr a cymdeithas Corau Meibion Gogledd Cymru. Cyn-gadeirydd (1993-95) Côr Meibion y Traeth, Ynys Môn a swyddog noddi presennol y côr.  Ffôn: +44 (0) 1407 741641