Proffilau artistiaid

Turnio coed – cynhyrchu dysglau, lampau, clociau, unrhyw rannau wedi eu turnio ar gyfer gwneuthurwyr dodrefn a seiri coed ee. darnau o risiau. Gwaith artistig addurnol law yn llaw â nwyddau ymarferol o bren.
• Albert Harrison
1 Ffordd yr Hen Ysgol, Llaingoch, Caergybi
t: 01407 765447 / 07773 059887w: http://www.pullennet.com/woodenthings/ 

Paentiwr sydd â’i brif ffocws ar y tirlun yw Allan – y tirlun naturiol a’r hyn a wnaed gan ddyn a’r cysylltiad rhyngddynt. Mae ganddo ddull neilltuol o ran effaith goleuni ar yr hyn a welwn. Mae’n gweithio mewn cyfryngau olew a rhaid seiliedig ar ddŵr.
• Allan Redfern
Redfern Studios, The Old School House, Barras Road, Brynsiencyn, LL61 6HZ
t: 01248 430282

Gwaith celf acrylig lled haniaethol/giwbaidd yn seiliedig ar symbyliadau, tirluniau a morluniau Cymreig. Adeileddau, chwedlau a phobl. Gwaith wedi ei gomisiynu a gweithiau unigol gwreiddiol, rhai ohonynt ar gael fel printiau argraffiad cyfyngedig.
• Andrew Southall
Gaerwen Isaf Farm, Chapel Street, Gaerwen LL60 6DN
t: 01248 421353

Mae siop Cymdeithas Crefftwyr Môn ym Melin Llynnon wedi cael ei symud i’r Granar. Mae’r crefftau a wnaed yn lleol yn cynnwys crochenwaith, jam a phicl, melysion, dodrefn, peirograffi, gwaith haearn, cynhyrchion perlysiau, paentiadau, paentiadau sedan, cardiau, dillad plant, ategolion, bagiau, nwyddau wedi eu gwau, teganau medal, dodrefn tŷ dol, coed wedi eu turnio, llwyau caru, gemwaith a decoupage.
• Anglesey Craft Guild
Melin Llynon Mill, Llanddeusant
t: 01407 710292w: http://www.angleseycrafts.co.uk 

Dosbarthiadau dawns salsa wythnosol ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sy'n gwella, croeso bob amser i aelodau newydd. Dydd Mawrth - Salsa - Llangefni Wellmans Social Club Industrial Estate Llangefni 7.30yh Dydd Iau - Salsa - Nr Llangefni Tre-ysgawen Hall Nr llangefni 6.30yh & 7.30yh Dydd Gwener - Afrian dance - Nr Bangor Llandygai Church Hall Nr Bangor 5.45yh - 7.15yh
• Anglesey Salsa Dance
t: 07751 017157