Anglesey Arts Weeks 2010

Cyflwynwyd gan Mark Argent ar 9 Mawrth, 2010 - 4:09yh.
9 Mawrth 2010 - 4:00yh
Etc/GMT+1
AAWWelcome to our seventh Anglesey Arts Weeks!
 
We are celebrating the rich and varied creative talents on Anglesey by holding the Arts Weeks in two parts; Open Studios and Galleries over the Easter two weeks and then, in October, the Performing Arts.

During the Open Studios and Galleries weeks visual artists and open their studios to visitors.  You may find anything from cards and prints to buy, to exhibitions and installations of contemporary art to see in studios, chapels, barns, sheds, galleries and artists’ homes; a chance to meet and talk with the artist, often over a cup of tea, and gain a unique glimpse of the artistic process.

 

Oriel gelf newydd - Oriel Daniel yn Llangefni - Tachwedd 2009

Cyflwynwyd gan Heather ar 11 Tachwedd, 2009 - 1:49yh.
11 Tach 2009 - 2:00yh
Etc/GMT+1
Mae oriel gelf newydd o’r enw Oriel Daniel yn awr ar agor yn Llangefni. Rhys G Morris yw’r gŵr busnes ifanc sy’n rhedeg yr Oriel sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Cefni yng nghanol tref Llangefni. Agorwyd yr Oriel yn swyddogol yn ddiweddar gan y Cynghorydd Peter Rogers a fu’n gefnogol iawn i Rhys tra’r oedd yn y Brifysgol. Roedd y Cynghorydd Rogers wedi adnabod y teulu Morris, yn cynnwys taid Rhys, ers dros 40 o flynyddoedd. Nododd ei fod yn bleser dod i agor yr Oriel gan fod yr adeilad ei hun wedi bod yn wag ers amser hir. Roedd yn arbennig o falch fod gŵr ifanc lleol wedi cymryd y siop a oedd yn ei dŷb ef mewn ‘safle gwych ar y Stryd Fawr’, ac roedd yn falch o’i lwyddiant ar ôl iddo weithio mor galed. Nododd hefyd fod Rhys am gynnig gwasanaeth fframio lluniau proffesiynol yn yr Oriel, ‘a byddai hyn,’ meddai ‘ yn fara menyn iddo’. Aeth ymlaen i ddweud mai, ‘Dyma’r math o fusnes maen nhw ei angen yma yn Llangefni’. Diolchodd i’r holl ffrindiau a’r cefnogwyr am ddod yno ac agorwyd yr Oriel yn swyddogol gyda dymuniadau gorau am lwc dda.

Arddangosfa Ucheldre - Ardal Llynnoed Cudd Môn, 24 Ebrill - 17 Mai 2009

Cyflwynwyd gan Heather ar 15 Ebrill, 2009 - 12:15yh.
24 Ebr 2009 - 10:00yb
17 Mai 2009 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Mae ffotograffau, peintiadau, ffilm, a memorabilia’n adrodd stori Comin hynaf Tywyn Trewan, ardal yng ngogledd-orllewin Môn rhwng y môr mewndirol a Rhosneigr. Yno mae traeth tawel Cymyran yn ffinio â gorsaf RAF y Fali, un o’r meysydd awyr prysuraf ym Mhrydain, a adeiladwyd yn 1941 i warchod y ffiniau gorllewinol. Yn ystod y gwaith o’i adeiladu, darganfuwyd y creiriau o’r Oes Haearn yn Llyn Cerrig Bach. Mae’r gymuned leol, gyda help ysgolion cynradd lleol, yn eich gwahodd chi i ddod a darganfod mwy am ardal lle mae’r hynafol a’r modern yn cyd-oesi.

Arddangosfa Ucheldre - FFORWM GELF YNYS MôN 21 Mawrth - 19 Ebrill 2009

Cyflwynwyd gan Heather ar 19 Mawrth, 2009 - 1:39yh.
21 Mawrth 2009 - 10:00yb
19 Ebr 2009 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Cyfle i weld o leiaf un darn o waith gan bawb sy’n cymryd rhan yn Wythnosau Celf Ynys Môn. Fe fydd artistiaid yn gweithio yn y Ganolfan ac fe fydd map graddfa fawr yn dangos lle mae’r gweithgareddau eraill yn digwydd. Canolfan Ucheldre Centre, Caergybi, Anglesey. LL65 1TE. 01407 763361. Agor: Llun - Sadwrn 10yb - 5yh, Sul 2-5yh. Nodwch os gwelwch yn dda fod y Brif Neuadd yn cael ei defnyddio weithiau ar gyfer digwyddiadau eraill, ac ar rai Suliau ar gyfer ffilmiau, felly gall fod cyfyngiadau ar fynediad i weld arddangosfeydd. Ffoniwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda i gadarnahua.

Arddangosfa Ucheldre - Grefftwyr Ynys Môn Chwefror 10 - Mawrth 15

Cyflwynwyd gan Heather ar 25 Chwefror, 2009 - 5:43yh.
10 Chwefror 2009 - 7:30yh
15 Mawrth 2009 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Casgliad o grefftau lleol sy’n cynnwys cardiau, dillad, gwaith toriadau, lluniau, tegannau, gwydr, cynnyrch gwenyn a llawer mwy. Bydd crefftwyr yn y galeri bob dydd un ai yn dangos crefft neu’n siarad am y gwaith sydd i’w weld. Dydd Llun - Dydd Sadwrn 10yb - 5yh, Dydd Sul 2-5yh Ucheldre Centre, Holyhead, LL65 1TE

Wythnosau Celf Ynys Môn 2009 - Stiwdios Agored ac Orielau

Cyflwynwyd gan Heather ar 24 Ionawr, 2009 - 5:48yh.
24 Ion 2009 - 6:00yh
Etc/GMT+1
Croeso i’n chweched o’n Wythnosau Celf Ynys Môn sydd bellach wedi sefydlu’u hunain fel digwyddiadau pwysig yng nghalendr yr ynys. Yn 2008 fe wnaethon ni gynnal Wythnosau’r Celfyddydau Perfformio ym mis Hydref yn dilyn ein Stiwdios Agored ac Orielau’n gynharach yn y flwyddyn. Mae’r fformat hwn yn parhau yn 2009 gan ddod â chymysgedd amrywiol o ddigwyddiadau celf a pherfformio at ei gilydd. Yn ystod yr wythnosau Stiwdios Agored ac Orielau, 4-19 Ebrill 2009, bydd peintwyr, cerflunwyr, ffotograffwyr, artistiaid gosodiadau a gweithwyr crefft yn agor eu stiwdios i ymwelwyr. Bydd digonedd o ddewis ar eich cyfer – yn gardiau a phrintiau a gweithiau celf gwreiddiol i’w prynu, ac yn arddangosiadau

Arddangosfa Ucheldre - TEMPUS FUJIT 9 Ionawr - 8 Chwefror 2009

Cyflwynwyd gan Heather ar 6 Ionawr, 2009 - 1:33yh.
9 Ion 2009 - 7:00yh
8 Chwefror 2009 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Canolfan Ucheldre Centre, Caergybi. 01407 763361 Agor Llun - Sad 10-5yh, Sul 2-5yh. Mae dau ffotograffydd lleol, Geraint Thomas a Gareth Roberts, wedi cydweithio ar yr arddangosfa unigryw hon. Taith ffotograffaidd o amgylch Eryri ac arfordir Môn yw Tempus Fujit: mae gwaith Geraint yn canolbwyntio ar wyll a Gwawr, tra bo Gareth yn dal tirluniau llonydd yng ngolau lleuad, yn llawn awrorâu, lleugylchoedd, a sêr gwib.

Arddangosfa Ucheldre - HEGLU 9 Ionawr - 8 Chwefror 2009

Cyflwynwyd gan Heather ar 6 Ionawr, 2009 - 1:30yh.
9 Ion 2009 - 7:00yh
8 Chwefror 2009 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Canolfan Ucheldre Centre, Holyhead. 01407 763361. Llun - Sad 10-5yh, Sul 2-5yh. Arddangosfa arloesol sy’n defnyddio gwrthrychau angof a ddarganfuwyd ynghyd â seiniau a gasglwyd a delweddau wedi eu taflunio. Mae Richard Houghton, Tom Simone, a Femke van Gent yn creu amgylchedd cynhyrfus, ysmala ac amharchus.

Arddangosfa Ucheldre - Cauldron and Friends 28 Hydref - 23 Tachwedd 2008

Cyflwynwyd gan Heather ar 27 Hydref, 2008 - 5:37yh.
28 Hydref 2008 - 7:00yh
23 Tach 2008 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Canolfan Ucheldre Centre, Millbank, Holyhead, LL65 1TE - 01407 763361. Cyfle i weld detholiad helaeth o gwiltiau a chelf cwiltiau cyfoes gan y grwp o Fôn, Cauldron, ynghyd â gwaith gan rai o’u ffrindiau. Yn ystod yr arddangosfa bydd aelodau’n gweithio yn y Ganolfan; ffoniwch i holi am amserlen. Arddangosfa's agor 7yh, sgwrs 7.30yh. Mynediad a ddim, croeso i bawb.

Arddangosfa Ucheldre - Davies, Davies, Davies, & Davies - 3 - 26 Hydref 2008

Cyflwynwyd gan Heather ar 29 Medi, 2008 - 4:29yh.
3 Hydref 2008 - 10:00yb
26 Hydref 2008 - 5:00yh
Etc/GMT+1
Arddangosfa ar y cyd o weithiau celf mewn gwahanol gyfryngau, gan ddwy set o ddau frawd o ddwy genhedlaeth. Mae Gareth Davies, uwch ddarlithydd, yn arddangos cyfres o’i luniau diweddaraf. Bydd ei frawd Dyfed, athro celf wedi ymddeol o Ysgol Friars, Bangor, yn dangos cerfluniau a’u lluniau paratoadol. Mae mab Gareth, Simon, athro celf yn Sir Gaer, yn cyfrannu detholiad amrywiol o weithiau, gan gynnwys paentiadau, lluniau a phrintiau o furluniau. Mae ei frawd Glyn yn un o ffoto-artistiaid sefydledig Môn, a bydd yn cyflwyno gweithiau o’i brosiect diweddaraf ar Nant Gwrtheyrn. Arddangosfa'n agor 7yh, sgwrs 7.30yh ar Dydd Sadwrn 11 Hydref. Croeso i bawb.