Lansio Gwefan Newydd
Cyflwynwyd gan admin ar 24 Chwefror, 2006 - 3:03yb.
 AAF2 Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi casglu erbyn hyn, mae gennym Wefan newydd sbon. Mae gwefan Fforwm Gelf Ynys Môn wedi cael ei hailddatblygu'n llwyr, gan wneud defnydd o'r technolegau gwe diweddaraf un i greu cymuned ar-lein o artistiaid i helpu hyrwyddo'r 'Celfyddydau' ym Môn a'r cyffiniau. Petai gennych unrhyw sylwadau, gwestiynau neu adborth, defnyddiwch y ffurflen cysylltwch os gwelwch yn dda. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, dylech fod yn cofrestru. Mae cofrestru'n cadarnhau eich diddordeb yn y Fforwm ac yn rhoi mynediad ichi i adrannau preifat o'r safle. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gall Artistiaid enwebu eu hunain i'r Fforwm i gael uwchraddio eu cyfrif. Mae cyfrif Artist wedi ei uwchraddio yn caniatáu cwblhau Proffil Artist sy'n ymddangos yn adrannau proffilau artistiaid o'r safle. |
|